Ansawdd


Ein nod yw bodloni ein cwsmeriaid drwy fodloni anghenion ein cwsmeriaid y tro cyntaf, bob tro.

Nid yw meddu ar ISO 9001 yn golygu ein bod yn berffaith, mae camgymeriadau’n digwydd, ond y System Ansawdd yw ein fframwaith ar gyfer lleihau’r cyfleoedd ar gyfer gwneud camgymeriadau, ac ar gyfer mynd i’r afael â nhw wrth iddynt godi.

Mewn achos annhebygol lle bydd cwsmer yn derbyn gwaith sy’n is na’r safon, mae ein gweithdrefn gwyno i gwsmeriaid yn sicrhau y gallwn ymateb yn gyflym ac yn gadarnhaol i ddatrys y broblem. Yn ail, ond yr un mor bwysig, rydym yn ceisio dod o hyd i ddull o sicrhau nad yw’r fath gamgymeriadau’n digwydd eto.

Beth bynnag sy’n digwydd, rydym yn gwybod bod ymddiriedaeth ein cwsmeriaid ynom yn flaenllaw. Mae ISO 9001 yn cynorthwyo ein holl staff i gydlynu â’r gofyniad hwnnw.