Amgylchedd


Mae gan argraffu enw fel bod yn ddiwydiant brwnt, ond rydym yn ymwybodol bod gan ein cwsmeriaid yr un pryderon a’r un gwerthoedd amgylcheddol uchel â ni, ac mae ardystiad amgylcheddol yn ddull delfrydol o ddangos hyn.

Cynnydd yn erbyn amcanion ar gyfer 2004

  • Rheoli gwastraff – lleihau gwastraff sy’n mynd i gladdfa sbwriel o 20%.
    Canlyniad – ei leihau o dros 60%
  • Minimeiddio gwastraff – lleihau gwastraff papur.
    Canlyniad – Gosod ImageControl a phlygwr rhicio newydd ym Mehefin/Gorffennaf 2004. O fis Mehefin hyd fis Rhagfyr 2004, defnyddiwyd 50 tunnell yn llai o bapur nag yn ystod yr un cyfnod yn 2003.
  • Gollyngiadau VOC – lleihau gollyngiadau IPA.
    Canlyniad – rhaglen dadansoddi cemegau mewn d_r 3 mis.
  • System rheoli’r amgylchedd – cyflawni’r Ddraig Werdd Lefel 5 ac ISO 14001.
    Canlyniad – cyflawni ISO 14001 ym mis Mawrth 2004, cyflawni’r Ddraig Werdd Lefel 5 ym mis Awst 2004.

  • Rheoli gwastraff yn gyfrifol

  • Cesglir yr holl wastraff arbennig gan gludwr gwastraff cofrestredig mewn cydymffurfiaeth â Rheoliadau Gwastraff Arbennig [1996], ac ailgylchir dros 90% ohono.
  • Ailgylchir yr holl alwminiwm, o blatiau argraffu i ganiau diodydd.
  • Ailgylchir yr holl wastraff papur o’r broses gynhyrchu; ailgylchir y rhan fwyaf o’r gwastraff papur swyddfa.
  • Ailgylchir y gwastraff plastic i gyd bron, o orchudd paledi i gartonau llaeth.
  • Mae’r rhan fwyaf o’r gwastraff bwyd yn mynd i’n habwydfa ar y safle.

  • Ffynonellu Papur

  • Mae gweithgynhyrchu papur yn parhau i niweidio coedwigoedd hynafol, nid yn y Dwyrain Pell ac ym Mrasil yn unig, ond hefyd yn Affrica, Canada, y Ffindir ac yn Rwsia. Am fwy o wybodaeth, gweler www.saveordelete.com Gall Argraffwyr Cambrian ffynonellu papur sydd wedi’i ailgylchu neu bapur sy’n achrededig gan Gyngor Stiwardiaeth y Goedwigaeth ar gyfer eich gwaith. Ni fydd yn angenrheidiol y dewis rhataf, ond gall fod yr union beth yr ydych chi’n chwilio amdano.