|
Cynigia Argraffwyr Cambrian argraffu digidol lliw ac unlliw i safon uchel gyson, gyda gweithdroadau cyflym a phrisiau cystadleuol.
Mae ein gwasg Heidelberg Digimaster yn nodedig yn y diwydiant am ei waith hanner tôn du ac arlliw o ansawdd uchel, a’i allu i argraffu ar ystod eang o swbstradau, gan gynnwys papurau sydd wedi’u hailgylchu 100%.
Mae argraffu digidol yn rhan hanfodol o ymroddiad Argraffwyr Cambrian i leihau ein hardrawiad amgylcheddol, ac mae’n broses sydd, ar y cyfan, yn rhydd o gemegau, ac nid oes angen unrhyw blatiau arni. Yn ogystal, mae egwyddorion argraffu yn ôl y gofyn yn golygu gwastraffu llai o bapur.
Mae’r dewisiadau gorffen ymroddedig yn ein hadran ddigidol yn cynnwys rhwymo perffaith, cynhyrchu llyfrynnau, a styffylu llyfrynnau meingefn sgwâr, sy’n opsiwn cost effeithiol a deniadol ar gyfer gwaith digidol. Mae opsiynau eraill, gan gynnwys rhwymiad clawr caled, ar gael o ofyn amdanynt, cysylltwch â ni i drafod eich anghenion.
Yn Cambrian Digidol, cyfunir ein profiad, ein hansawdd a’n hymroddiad i’r amgylchedd â’r dechnoleg ddiweddaraf i gynnig cynnyrch rhagorol ar y pris iawn.
|