 |
 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
| |

Argraffwyr Cambrian
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3TN
01970 627111
|
|
|
Mae gan argraffu enw fel bod yn ddiwydiant brwnt, ond rydym yn ymwybodol bod gan ein cwsmeriaid yr un pryderon a’r un gwerthoedd amgylcheddol uchel â ni, ac mae ardystiad amgylcheddol yn ddull delfrydol o ddangos hyn.
Cynnydd yn erbyn amcanion ar gyfer 2004
- Rheoli gwastraff – lleihau gwastraff sy’n mynd i gladdfa sbwriel o 20%.
Canlyniad – ei leihau o dros 60%
- Minimeiddio gwastraff – lleihau gwastraff papur.
Canlyniad – Gosod ImageControl a phlygwr rhicio newydd ym Mehefin/Gorffennaf 2004. O fis Mehefin hyd fis Rhagfyr 2004, defnyddiwyd 50 tunnell yn llai o bapur nag yn ystod yr un cyfnod yn 2003.
- Gollyngiadau VOC – lleihau gollyngiadau IPA.
Canlyniad - rhaglen dadansoddi cemegau mewn d_r 3 mis.
- System rheoli’r amgylchedd – cyflawni’r Ddraig Werdd Lefel 5 ac ISO 14001.
Canlyniad – cyflawni ISO 14001 ym mis Mawrth 2004, cyflawni’r Ddraig Werdd Lefel 5 ym mis Awst 2004.
Rheoli gwastraff yn gyfrifol
- Cesglir yr holl wastraff arbennig gan gludwr gwastraff cofrestredig mewn cydymffurfiaeth â Rheoliadau Gwastraff Arbennig [1996], ac ailgylchir dros 90% ohono.
- Ailgylchir yr holl alwminiwm, o blatiau argraffu i ganiau diodydd.
- Ailgylchir yr holl wastraff papur o’r broses gynhyrchu; ailgylchir y rhan fwyaf o’r gwastraff papur swyddfa.
- Ailgylchir y gwastraff plastic i gyd bron, o orchudd paledi i gartonau llaeth.
- Mae’r rhan fwyaf o’r gwastraff bwyd yn mynd i’n habwydfa ar y safle.
Ffynonellu Papur
- Mae gweithgynhyrchu papur yn parhau i niweidio coedwigoedd hynafol, nid yn y Dwyrain Pell ac ym Mrasil yn unig, ond hefyd yn Affrica, Canada, y Ffindir ac yn Rwsia. Am fwy o wybodaeth, gweler www.saveordelete.com Gall Argraffwyr Cambrian ffynonellu papur sydd wedi’i ailgylchu neu bapur sy’n achrededig gan Gyngor Stiwardiaeth y Goedwigaeth ar gyfer eich gwaith. Ni fydd yn angenrheidiol y dewis rhataf, ond gall fod yr union beth yr ydych chi’n chwilio amdano.

|
|
| |
| |
![]() |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |
 |