|
Dechreuodd hanes urddasol a nodedig Argraffwyr Cambrian ym 1860, ym myd cyhoeddi ac argraffu.
Cychwynnodd ymglymiad teulu Read â’r cwmni ym 1916 pan ymunodd Robert Read yr hynaf â’r cwmni. Erbyn hyn, mae pedwaredd genhedlaeth teulu Read yn rhedeg y busnes a sefydlwyd yn wreiddiol gan Syr John Gibson.
Tyfodd adran argraffu’r cwmni ochr yn ochr â’r papur newydd tan iddynt gael eu gwahanu ym 1994. Symudodd Argraffwyr Cambrian i’w safle newydd yn Llanbadarn, ar gyrion Aberystwyth, dros ddeng mlynedd yn ôl, ac maent yn parhau i ledaenu ar y safle hwn.
Yn hanesyddol, mae Argraffwyr Cambrian wedi gallu mynd i’r afael â’r her a geir gan bethau newydd ac arloesol yn llwyddiannus, gan fuddsoddi yn y technolegau cywir ar yr adeg gywir. Mae goroesi am 140 mlynedd mewn busnes cystadleuol wedi ein dysgu fod yn rhaid i ni gofleidio technolegau newydd a’u datblygu’n gyflym.
Ym 1998, gwerthwyd dwy o deitlau papur newydd y Cambrian News a oedd yn berchen i’r cwmni i Syr Ray Tindle, ac maent yn awr yn parhau o dan stiwardiaeth y cwmni.
Yn ei ddyddiau cynnar, gosododd Argraffwyr Cambrian un o’r gweisg p_eredig cynharaf yn y Byd, ac roedd ymysg y cyntaf i ddefnyddio ffotogysodi a thrawsnewidiad plât polymer hylif o’r wasg argraffu. Buddsoddwyd mewn cyfansoddiad tudalen digidol mor gynnar ag 1987. Ers hynny, rydym wedi aros ar y blaen trwy ddefnyddio’r feddalwedd a’r caledwedd diweddaraf. Roedd ein papurau newydd ymysg y rhai cyntaf yn y byd i drosglwyddo ffeiliau i safleoedd argraffu o bell drwy PDF, a gafodd ei ddilyn gan system gyhoeddi cronfa ddata soffistigedig Sybase. Mae’r technegau cyhoeddi datblygedig rydym wedi’u datblygu’n ein cynorthwyo i ddeall anghenion argraffu ein cwsmeriaid cyhoeddi, sy’n gofyn am soffistigedigrwydd sy’n wahanol iawn i’r adeg pan gysodwyd gwaith ar beiriannau metel poeth, a hyd yn oed ymhellach o’r math gwreiddiol a osodwyd â llaw a ddefnyddiom i gychwyn.
Defnyddiwyd systemau ansawdd gan Argraffwyr Cambrian ers deng mlynedd. Ym 1997 roedd cynllun busnes y cwmni’n cynnwys ennill achrediad ansawdd ISO 9001, ac enillwyd hwn ym 1999. Erbyn hyn, rheolir ein holl brosesau drwy ein safonau ansawdd.
Ym 1999, gosodom ein peiriant cyfrifiadur i blât thermol cyntaf. Chwyldrowyd ein hallbwn rhagwasg gan Scitex Lotem 800V, gan wella’r ansawdd a’r mewnbwn, a chan ddileu ffilm a’i wastraff cysylltiedig bron yn gyfan gwbl o’n system gynhyrchu. Mae ein cwsmeriaid amgylcheddol sensitif yn mwynhau’r effaith amgylcheddol llai a geir o ddefnyddio cyfrifiadur i blât.
|